With the familiar scaffolding of the physically gathered church withdrawn, combined with a sense of fear, anxiety and isolation, many will wonder how we can ensure our faith withstands these challenging times.

However, I think this season, though challenging, provides an opportunity to shift western consumer church culture. Something that usually hangs on how good the worship or talk was last Sunday can move to a deeper, more personal and rooted relationship with Jesus and other members of our church community. So, should we be asking ourselves how people can thrive at this time, not just survive? 

The usual pace of modern society is frenetic with our communities often running at breakneck speed. Yet suddenly we have been thrown into this season of stillness, forced to stop and take stock. And I think it is long overdue. 

The title of pastor John Mark Comer’s recent book The Ruthless Elimination of Hurry captures this moment perfectly. Although our current circumstances are dire, I trust God can weave goodness into the situation, providing us with the opportunity for a deep work to take place within us – one that heals our souls and allows them to catch up with the pace of our lives. 

Sponsored

I believe in this slowing we have the opportunity to guide people towards unity and rest, removing the distractions and frustrations of a busy life. We can choose to develop healthy rhythms of personal connection through scripture, prayer and worship. But how?

Even more than ever, good communication is key to ensuring communities remain engaged and can grow. At Lighthouse Church, Anglesey, this season has sparked the phrase although we have decreased proximity, we want increased connectivity”. This means we are trying to utilise multiple channels of connection across our community to ensure everyone knows they are a loved and valued individual. We use a variety of methods, from simple phone calls, texts and letters, to using digital media such as online streams and conference calls for Sunday gatherings and small groups. 

However, digital media use comes with a health warning. Be careful not to overload people and always encourage its healthy use. It is easy to become addicted to screen time, especially in this unprecedented time. So, encourage people to use this time to engage with their communities and families, while digging into scripture and prayer. Not just sitting on their phones or in front of the TV.

If the idea of leading a community online is terrifying, don’t panic. Stick to more traditional communication through phone calls or letters. Signpost people to others who have the right skills to create and lead online media. Note that political party divisions have been mostly put aside to support the common good; I am hopeful the church can do similar. 

We have found with increased connection people are getting to know each other better than ever before. We can guide them to use their time well by seeking rest with a personal connection to Father God, and we can inspire each other to be an active church, one that has left the building and entered the local community by getting to know, support and serve our neighbours in a way that will last well beyond this season. 

Pob bendith (every blessing) and go well.

Image by PublicDomainPictures 

Cyfle i fynd yn ddyfnach gydag Iesu ac eraill

A ydy COVID-19 wedi cynnig y cyfle inni symud diwylliant prynwriaeth gorllewinol yr eglwys, a chyfeirio’n calonnau at berthynas ddyfnach gydag Iesu ac eraill?

Wedi’n hamddifadu o adeiladwaith corfforol cyfarwydd yr eglwys, ynghyd â’r ymdeimlad o ofn, pryder ag ynysrwydd, bydd llawer ohonon ni’n ystyried sut y medrwn ni sicrhau bod ein ffydd yn gwrthsefyll yr amseroedd heriol hyn.

Serch hynny, mae’r cyfnod hwn, er mor heriol, yn cynnig cyfle i symud ffiniau diwylliant prynwriaeth gorllewinol yr eglwys. Gall rhywbeth sydd bellach wedi disgyn i’r rhigol o ddibynnu ar ddim mwy na thrafod rhagoriaethau addoliad neu bregeth y Sul cynt, symud at berthynas sydd wedi’i wreiddio’n ddyfnach, a mwy personol ag Iesu ag aelodau eraill ein cymuned eglwys. Felly, a ddylen ni fod yn holi’n hunain sut mae modd i bobol ffynnu, nid jest bodoli a goroesi, ar adeg fel hyn,?

Mae ein cymdeithas gyfoes yn rhuthro ar ras wyllt, gyda’n cymunedau a’n bywydau’n aml yn orlwythog. Fodd bynnag, ar amrant, dyma ni’n bendramwnwgl ddisymwth i dymor o segurdod a llonyddwch tawel, wedi’n gorfodi i oedi a meddwl. A hen bryd hefyd, medda fi. 

Mae teitl llyfr diweddar John Mark Comer, The Ruthless Elimination of Hurry, yn crisialu’r ennyd hon yn berffaith. Er bod ein hamgylchiadau presennol yn rai dyrys, enbyd, dwi’n trystio y gall Duw blethu ei ddaioni i mewn i’r sefyllfa, gan alluogi gwaith dwfn i ddigwydd o’n mewn -iachâd i’n heneidiau a chyfle inni ddal i fyny â bwrlwm bywyd. 

Fe gredaf i fod siawns inni, yng nghanol yr arafu mawr yma, i arwain pobl tuag at undod a gorffwys, trwy fod gweithgareddau a rhwystredigaethau bywyd prysur wedi’u symud o’r neilltu dros dro. Mae’r dewis ganddon ni i ddatblygu rhythmau newydd iach o gyswllt personol trwy’r ysgrythur, gweddi ac addoliad. Ond sut?

Nawr, hyd yn oed yn fwy nag erioed, mae cyfathrebu da yn hanfodol er mwyn sicrhau fod cymunedau’n cadw cysylltiad ac yn medru tyfu. Yng Nghapel Goleudy Môn, mae’r tymor hwn wedi esgor ar y dywediad er ein bod yn gweld llai o’n gilydd, rydyn ni angen cysylltu mwy”. Golyga hyn ein bod yn ceisio gwneud defnydd o’r lliaws o gyfryngau cysylltu ar draws ein cymuned er mwyn sicrhau fod pawb yn gwybod eu bod yn unigolion sy’n cael eu gwerthfawrogi a’u caru. Trwy amryw ddull a modd, o alwadau ffôn, negeseuon a llythyrau syml, i ddefnydd cyfryngau digidol megis ffrydiau a galwadau cynadledda ar-lein ar gyfer cyfarfodydd dydd Sul a grwpiau llai. 

Fodd bynnag, mae angen bod yn ofalus gyda’r defnydd o gyfryngau digidol a bod yn ofalus i beidio â gorlwytho pobl a phob amser annog defnydd iach o’r cyfryngau. Hawdd ydy mynd yn gaeth i’r amser a dreulir ar y sgrin, yn enwedig yn ystod amser segur fel hwn. Felly, ceisiwch annog pobl i ddefnyddio’r amser hwn i ymgysylltu â’u teuluoedd a’u cymunedau, wrth hefyd bori trwy’r ysgrythur neu weddïo, yn hytrach na dim ond byw a bod yn eistedd ar eu ffonau neu o flaen y teledu.

Os ydy’r syniad o arwain cymuned ar-lein yn frawychus, does dim angen ichi bryderu. Daliwch at y ffyrdd mwy traddodiadol o gyfathrebu, megis galwad ffôn neu lythyr. Cyfeiriwch bobl at rai eraill sydd â’r sgiliau addas i greu ac arwain ar y cyfryngau ar-lein. Fe welwn fod rhaniadau gwleidyddol wedi’u gosod o’r neilltu, i ryw raddau, a hynny er lles cyffredinol i bawb; hyderwn y gall yr eglwys ddilyn trywydd tebyg. 

Rydyn ni wedi darganfod, wrth i’r ymgysylltu yma gynyddu, fod pobl yn dod i nabod ei gilydd yn well nag erioed o’r blaen. Medrwn eu harwain nhw i wneud y gorau o’u hamser trwy geisio amser i orffwys yng nghwmni ein Tad Nefol, ac fe allwn ni ysbrydoli’n gilydd i fod yn eglwys weithgar, un sydd wedi gadael yr adeilad ac ymuno â’r gymuned leol trwy ddod i nabod, cefnogi a gwasanaethu ein cymdogion mewn ffordd a fydd yn gadael ei ôl ymhell wedi i’r tymor hwn ddod i ben. 

Pob bendith a daliwch ati,