I’m sure we all had plans for 2020. We had expectations, excited for what God might do. We probably didn’t anticipate a global pandemic, lockdowns and loss. 2020 has been the year of the unexpected.

The Christmas narrative reminds us how God uses the unexpected. There are many prophecies about the birth of Jesus; however, the way in which God orchestrates His mission is often not as we might expect. 

In Luke 2:10 – 12 we read the angelic appearance to shepherds on the outskirts of a tiny town. Perhaps an unexpected choice of announcing the King’s birth to this fringe group?

But the angel said to them, Do not be afraid. I bring you good news that will cause great joy for all the people.’” The good news of the Saviour’s birth crescendos: This will be a sign to you: you will find a baby wrapped in cloths and lying in a manger.”

Sponsored

The sign of this joy is a baby in an animal’s feeding trough? Not in a palace behind gates and guards, instead an accessible animal abode. The unexpected place we find the Saviour means He is in reach of every recipient of this news. Jesus remains unexpectedly available to all.

God is in the midst of people. God is in our midst. God is present in the unexpected.

Let us know joy in being reminded God is present. God is keeping His promises, especially in the unexpected of 2020. This year may not look how we imagined, but God continues to bring His great joy. Jesus is with us. Accessible. Real. Available to all.

Who are the people God is leading us to take His joy to? Why not pray for God to lead you in a conversation with someone in your life today? To encourage them not to fear. To bring His good news that will cause them great joy.

Dwi’n siŵr fod gan bob un ohonon ni gynlluniau ar gyfer 2020. Roedd ganddon ni ddisgwyliadau, yn gyffrous am yr hyn y gallai Duw ei wneud. Mae’n debyg nad oedden i wedi rhagweld pandemig byd-eang, cyfnodau clo a cholledion. Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn yr annisgwyl.

Mae hanes y Nadolig yn ein hatgoffa sut mae Duw yn defnyddio’r annisgwyl. Ceir sawl proffwydoliaeth ynglŷn â genedigaeth Iesu. Fodd bynnag, dydy’r ffordd mae Duw’n trefnu gweithredu Ei fwriadau ddim bob amser yr hyn a ddisgwyliwn. 

Yn Luc 2:10 – 12, darllenwn am yr ymddangosiad angylaidd i’r bugeiliaid ar gyrion tref fechan. Dewis annisgwyl, efallai, oedd cyhoeddi geni’r Brenin i’r criw bach dinod hwn? 

Ond dyma’r angel yn dweud wrthyn nhw, Peidiwch bod ofn. Mae gen i newyddion da i chi! Newyddion fydd yn gwneud pobl ym mhobman yn llawen iawn.” Mae’r newyddion da am eni’r Achubwr yn codi i’w anterth, gan ddatgan: Dyma sut byddwch chi’n ei nabod e: Dewch o hyd iddo yn fabi bach wedi’i lapio mewn cadachau ac yn gorwedd mewn cafn bwydo anifeiliaid.”

Arwydd y llawenydd hwn ydy babi mewn cafn bwydo anifeiliaid?! Nid mewn palas tu ôl i ddrysau caeedig gyda diogelwch milwyr gwarchodol ond, yn hytrach, gorffwysfa agored yr anifeiliaid. Mae’r man annisgwyl lle y cawn hyd i’r Achubwr yn golygu Ei fod o fewn cyrraedd i bawb sy’n clywed y newyddion hwn. Mae Iesu’n parhau i fod ar gael yn annisgwyl i bawb.

Mae Duw ynghanol pobl. Mae Duw yn ein mysg. Mae Duw’n bresennol yn yr annisgwyl. 

Boed inni deimlo llawenydd wrth gael ein hatgoffa fod Duw yn bresennol. Mae Duw’n dal i gadw Ei addewidion, yn enwedig felly yn yr annisgwyl yn 2020. Mae’n bosib nad dyma’r math o flwyddyn roedden ni wedi’i ddychmygu, ond mae Duw’n parhau i ddod â’i lawenydd mawr; mae Iesu gyda ni. Ar gael, go iawn, i bawb.

Pwy ydy’r rhai hynny mae Duw am ein harwain i rannu Ei lawenydd gyda nhw? Beth am weddïo fod Duw yn eich arwain mewn sgwrs â rhywun yn eich bywyd heddiw? I ddwyn anogaeth iddyn nhw, nid codi ofn. I ddod â’i Newyddion Da a fydd yn achos llawenydd mawr iddyn nhw.