Syniadau ar gyfer y teulu:

  • Helpwch y plant i dynnu llun o’u hysgol neu ffrindiau a’u teulu, a defnyddiwch y llun i weddïo dros athrawon, ffrindiau neu aelodau o’r teulu.
  • Cerddwch o amgylch eich strydoedd lleol, gan weddïo am gartrefi, siopau a mannau cymunedol 

Datganiad o obaith 

  • Gosodwch cannwyll yn y ffenestr gyda’r nôs
  • Myfyriwch ar Iesu, goleuni’r byd a’n gobaith yn y tywyllwch.
  • Treuliwch ychydig eiliadau mewn gweddi tawel. Os ydych yn gweddïo fel teulu, efallai y gallech ddal dwylo.

Cyd-weddïwn:

Iesu, credaf mai Ti yw’r Un buddugoliaethus
Ynddo Ti ymddiriedaf.
Iesu, credaf mai Ti yw’r Un ffyddlon
Ynddo Ti ymddiriedaf.
Iesu, credaf mai Ti yw’r Un atgyfodedig
Ynddo Ti ymddiriedaf.

Amen