Mae’r Cynghrair Efengylaidd yn dyheu am weld Cristnogion yn ymgysylltu â’u cynrychiolwyr cyhoeddus mewn modd adeiladol ac anogol, ond mi rydyn ni’n cydnabod y gall weithiau fod yn anodd gwybod ble i ddechrau.

Ein gobaith ydy y bydd yr adnodd hwn yn eich helpu i ddechrau adeiladu perthynas gyda’ch cynrychiolwyr cyhoeddus ac yn eich annog i weddïo amdanyn nhw a’u cefnogi wrth iddyn nhw eich cynrychioli. Fe gewch hyd i ddewis o ffyrdd i gysylltu â’ch cynrychiolwyr cyhoeddus a’r modd mwyaf effeithiol o ymgysylltu â nhw ar faterion sydd o bwys i chi.

Mae pandemig coronafeirws wedi’n gwneud inni dalu sylw mwy manwl na’r arfer ar benawdau’r newyddion ac atebolrwydd gwleidyddion fwyfwy dan y chwyddwydr. Mae cynrychiolwyr cyhoeddus, fel gweddill cymdeithas, wedi eu hymestyn i’r eithaf a’u digalonni gan ddifrifoldeb yr argyfwng iechyd, economaidd a chymdeithasol. Fel Cristnogion, eglwysi ac arweinwyr y ffydd, dewch inni annog ein harweinwyr etholedig, ac nid yn unig y rhai rydyn ni’n cytuno â nhw. Rydyn ni am i Gristnogion gael eu nabod fel pobl y newyddion da’ ymhob agwedd a maes bywyd. Felly, peidied inni gymryd y cyfle i fod yn ddinasyddion gweithredol yn ganiataol. Dewch inni ymgysylltu gyda’n cynrychiolwyr cyhoeddus mewn modd sy’n meithrin ymddiriedaeth, anogaeth a phartneriaeth.

Mae gan yr eglwys y fframwaith a’r rhwydwaith mewnol i fod yn sylfaen pan ddaw hi’n fater o ailadeiladu bywydau pobl a chefnogi ein cymunedau o bob cefndir. Ganddon ni mae’r galon i garu a gwasanaethu’r rhai sydd wedi torri, ac mae ganddyn nhw rwydweithiau perthynol unigryw.

Rydyn ni am weld y cysylltiadau a’r cydberthnasau hyn yn gwneud gwahaniaeth i’n cymunedau, er mwyn i gariad Iesu ddod i’r amlwg. Mae Duw, hefyd, yn ein gorchymyn i fod yn weithgar wrth wasanaethu a charu ein cynrychiolwyr cyhoeddus. Fel mae’n dweud yn 1 Timotheus 2:1 – 4: O flaen popeth arall dw i’n pwyso arnoch chi i weddïo dros bawb — pledio a gweddïo’n daer; gofyn a diolch i Dduw ar eu rhan nhw. Dylech chi wneud hynny dros frenhinoedd a phawb arall mewn safle o awdurdod, er mwyn i ni gael heddwch a llonydd i fyw bywydau duwiol a gweddus. Mae gweddïo felly yn beth da i’w wneud, ac yn plesio Duw sydd wedi’n hachub ni. Achos mae e am i bobl o bob math gael eu hachub a dod i wybod y gwir.”