Gyda llai nag wythnos i fynd tan gêm gyntaf Cymru yn erbyn gwlad Georgia yng nghwpan y byd yn Siapan, tybed sut mae’ch paratoadau chi’n mynd? Ydy’r crys rygbi yn barod i’w wisgo? Ydy’r gemau i gyd yn eich dyddiadur? Wrth gwrs, i’r chwareuwyr, dyma binacl gyrfa gyfan o baratoi; miloedd o oriau yn hyfforddi, ymarfer, a dyfalbarhau, heb sôn am flynyddoedd o gadw’n heini, bwyta’n iach a lefelau digyffelyb o hunanddisgyblaeth. Hawdd yw hi i ni i’w edmygu am eu holl ymdrechion!

Yn yr oes sydd ohoni, pan mae athletwyr, cerddorion a sêr y byd teledu mewn ffordd yn cystadlu am sylw ag edmygedd y genedl, rhaid codi’r cwestiwn, ar bwy y byddwch chi a mi yn hoelio ein sylw? Pwy, neu beth yn deilwng o’n sylw a’n hedmygedd? 

Yng nghanol yr holl gyffro sydd ynghylch Cwpan y Byd, daw geiriau Catecism San Steffan i’r meddwl, sef Prif bwrpas dynol ryw yw gogoneddu Duw, a’i fwynhau am byth.” Byddaf yn siwr o fwynhau’r gemau i gyd ar y teledu, ond rhaid i mi gofio mai rhywbeth dros dro yw’r gystadleuaeth. Mae perthynas efo Iesu yn berthynas tragwyddol, rhywbeth i’w fwynhau am byth. Er gymaint yr ydym yn ymhyfrydu yn ymdrechion ein tîm cenedlaethol, mae yna Un sydd wir yn haeddu’r clod, mawl, parch a’r bri. Mae Salm 145, adnod 3 yn dweud, Mae’r Arglwydd yn fawr, ac yn haeddu Ei foli! Mae Ei fawredd tu hwnt i’n deall ni.” 

Sponsored