I am sure that, like me, whilst you have understood the reasons for the past few months of lockdown, you are very much looking forward to going about your daily life in an unfettered manner once again. What this looks like and how it will take form over the coming weeks and months is still somewhat of an unknown. One thing I do know, though, is that during this time, I have learned to appreciate my daily freedoms more than ever before.

As a leader of a local council, I have had to make a huge number of choices in the past few months, many of which have not been easy. There have been times of serious reflection on why we have made certain decisions, and an increasing awareness that a time is coming when those decisions will be poured over by many a newfound expert. Like me, you too may be considering what the future will look like and what we can take forward as good and lasting change for our country.

Growing up I always enjoyed the story of Joseph in Genesis. I was reading it again recently and it struck me how Joseph’s choices helped him move from a place of restriction in prison to a place of freedom in power. As he did so, he chose to use his freedom to bring about lasting change for others. We see that this new face of freedom not only saved his country from an impending famine but also that of the nations around him.

Some of the choices we have made during lockdown have provided us with opportunities to make lasting change for the future. These may include practical choices regarding a greater use of technology to reduce the burden on our planet, or smaller choices to shop locally and support businesses closer to our communities. It may also include something I have observed in the local church: a greater sharing of hope and particularly the eternal hope that we have in Jesus. 

Sponsored

I have been hugely encouraged to see how the church has used this time of lockdown to further share the good news of salvation in Jesus. In my own church we have seen many people start their own personal journey with Jesus through our online services, devotions and the regular sharing of the hope of salvation.

As we emerge from lockdown the challenge for each of us is to ensure we do not lose the appreciation of our return to freedom. We are to maintain the lessons learned in order to bring about lasting change, both in our society and in the lives of those who are yet to know Jesus.

Gwedd newidiol rhyddid

Wrth inni raddol ddod allan o’r cyfnod clo, sut ddylen ni, fel cymdeithas, ddechrau cynllunio ar gyfer y dyfodol?

Dwi’n siŵr, er eich bod wedi deall y rhesymau dros gael cyfnod clo yn ystod y misoedd diwethaf, eich bod, fel finnau, yn edrych ymlaen yn eiddgar at fyw bywyd pob dydd dilyffethair unwaith eto. Braidd yn ansicr, ar hyn o bryd, ydy ceisio diffinio sut fydd pethau’n edrych dros yr wythnosau a’r misoedd sy’n dilyn. Fodd bynnag, mae un peth, heb os, a ddysgais i werthfawrogi fwy nag erioed yn ystod yr amser hwn, a hwnnw ydy’r rhyddid sydd ganddon ni o ddydd i ddydd.

Fel arweinydd cyngor lleol, dwi wedi gorfod gwneud nifer anferth o newidiadau dros y misoedd diwethaf, gyda sawl un anodd yn eu plith. Bu adegau lle gorfodwyd inni ystyried o ddifrif pwrpas a bwriad rhai penderfyniadau, ac ymwybyddiaeth gynyddol fod amser yn nesáu lle bydd arbenigwyr o’r newydd yn craffu a gwerthuso’r penderfyniadau hynny. Fel finnau, mae’n siŵr eich bod chithau’n ceisio meddwl sut mae’r dyfodol yn mynd i edrych a pha wersi cadarnhaol a pharhaol allwn ni eu dwyn ymlaen a fydd o fudd i’n gwlad.

Pan o’n i’n iau, roeddwn bob amser yn mwynhau clywed adrodd stori Joseff yn llyfr Genesis. Fe fues i’n ei darllen eto’n ddiweddar ac fe sylweddolais innau sut y bu i ddewisiadau Joseff ei helpu i symud o le cyfyng mewn carchar i le o ryddid a grym. Wrth iddo wneud hynny, fe ddewisodd ddefnyddio ei ryddid i ddod â newidiadau parhaol i eraill. Fe welwn fod y wedd newydd hon o ryddid, nid yn unig wedi arbed y wlad honno rhag y newyn oedd ar ddod, ond wedi arbed sawl gwlad o’i chwmpas hefyd. 

Mae rhai o’r dewisiadau sydd wedi’u gwneud ganddon ni yn ystod y cyfnod clo wedi cynnig cyfleon inni wneud newidiadau i bara at y dyfodol. Yn gynwysedig yn y rhain, mae dewisiadau ymarferol mewn perthynas â’r defnydd cynyddol o dechnoleg i leihau’r baich ar ein planed, neu ddewisiadau llai fel siopa’n lleol a chefnogi busnesau sy’n agosach at ein cymunedau. Mae’n bosib hefyd ei fod yn cynnwys rhywbeth y bu i mi sylwi arno yn yr eglwys leol: mwy o rannu gobaith ac yn fwyaf arbennig, y gobaith tragwyddol sydd ganddon ni yn Iesu.

Fe ges fy nghalonogi’n fawr o weld sut mae’r eglwys wedi defnyddio’r amser hwn o gyfyngu ar ryddid i rannu ymhellach newyddion da’r achubiaeth sydd i’w gael trwy Iesu. Yn fy eglwys fy hun, rydyn ni wedi gweld sawl person yn dechrau o’r newydd eu taith bersonol gydag Iesu trwy ein gwasanaethau a’n defosiynau ar-lein a rhannu gobaith iachawdwriaeth yn gyson.

Wrth inni ddod allan o’r cyfnod clo, yr her i bob yr un ohonon ni ydy sicrhau nad ydyn ni’n colli gwerthfawrogiad hwnnw o gael dychwelyd i ryddid. Y gobaith ydy y byddwn yn cofio a gweithredu ar y gwersi a ddysgwyd i sicrhau newidiadau sydd am barhau, nid yn unig yn ein cymdeithas ond ym mywydau’r rhai hynny sydd eto i ddod i nabod Iesu.