Tis the season to be jolly’, say the words of the old song. In the misdt of the hussle and bussle of endeavouring to get everything done’ for the big day, it’s easy to forget that Christmas is a festival of joy. 

But there is more to the joy of this festival than keeping a smiling face or making sure that you have a good time. The apostle Paul understood where his joy emanated, even when he was in prison: Rejoice in the Lord always. I will say it again: rejoice!Let your gentleness be evident to all. The Lord is near” (Philippians 4:4 – 5).

The joy that comes from remembering the birth of the Messiah is a joy that is impossible to place back in the decorations box come new year. It is a joy of knowing that God is with us, that He has planned a way through His incarnation, His death on the cross of Calvary, and His triumphant resurrection, to call us back to His love and to a full relationship with God. This is a joy that will never leave us, even if we don’t always feel so happy – understanding the truth of Christmas establishes a deep-rooted eternal joy within us.

Sponsored

So, whether you’re good at showing your joy to the world or not (and I, for one, certainly find that tough when life’s pressures are on!), how about doing something to raise a smile? As Paul says, there is a close link between joy and showing kindness. Think of someone who has been feeling down lately or going through a rough patch – go and see them, take them a little gift of flowers or chocolate if you want! And pray that they would experience the joy of knowing God through Jesus the Messiah.

Menna Machreth, o Gaersalem, Caernarfon sy’n gofyn sut allwn ni arddangos llawenydd yn ystod cyfnod y dyfodiad.

Tis the season to be jolly, meddai’r hen gân. Mae’n hawdd anghofio mai gŵyl o lawenydd yw’r Nadolig yng nghanol yr holl brysurdeb a’r pwysau i gyflawni pob tasg cyn y diwrnod mawr. Ond mae mwy i lawenydd yr ŵyl hon na gwenu ar bawb neu gwneud yn siŵr eich bod yn cael amser da. Roedd yr Apostol Paul yn deall o ble ddeuai ei lawenydd, hyd yn oed pan roedd yng ngharchar:

Byddwch yn llawen bob amser am eich bod yn perthyn i’r Arglwydd. Dw i’n dweud eto: Byddwch yn llawen! 5 Gadewch i bawb weld eich bod yn bobl garedig. Mae’r Arglwydd yn dod yn fuan” (Philipiaid 4:4 – 5).

Mae’r llawenydd a rydd cofio geni’r Meseia yn lawenydd na allwn ei roi nôl yn y bocs addurniadau yn y flwyddyn newydd. Llawenydd yw o wybod fod Duw gyda ni, Ei fod wedi trefnu ffordd drwy Ei ymgnawdoliad, Ei farwolaeth ar groes Calfaria a’i atgyfodiad buddugoliaethus i’n galw ni nôl i’w gariad ac i berthynas lawn gyda’n Duw. Dyma lawenydd na fydd yn ein gadael, hyd yn oed os na fyddwn yn teimlo’n hapus bob tro, mae deall gwirionedd y Nadolig yn gwreiddio llawenydd tragwyddol yn ddwfn ynom ni.

Felly, p’run ai ydych chi’n un da am ddangos eich llawenydd i’r byd ai peidio (dwi’n sicr yn cael trafferth dangos llawenydd pan fo pwysau bywyd yn drwm!), beth am wneud rhywbeth i godi gwên? Fel y dywed Paul, mae cysylltiad agos rhwng llawenydd a bod yn garedig. Meddyilwch am rywun sydd wedi bod yn ddigalon neu’n mynd drwy amser anodd, ewch i’w gweld – ewch â rhodd fach fwytadwy os dymunwch! – a gweddiwch y byddant yn profi’r llawenydd a ddaw o adnabod Duw drwy Iesu’r Meseia.