During this crisis I’m sure you’ve heard the phrase “we’re all in the same storm, but we’re not all in the same boat.” It highlights the fact that this crisis is affecting us all but in different ways. The current lockdown has meant that a number of aspects of life as we knew it have been restricted so that we can protect and show love to others.

However, we do need to be aware that they are having a significant effect on so many, both practically and emotionally. Whether it be through loss of income, mental health challenges or not being able to see loved ones, the impact of lockdown is being felt.

I once chatted with a man called Sam* who had recently become a Christian in prison. Sam still had a fair bit of his sentence to serve. As he shared his experience of prison with me, he smiled and said, You know what, I may not be free to be out there, but I am free in here,” as he pointed to his heart. Over years of prison ministry I’ve heard lots of people say the same, that even when they are not physically free they have still been able to experience God’s freedom.

2 Corinthians 3:17 says: Now the Lord is the Spirit, and where the Spirit of the Lord is, there is freedom.” God is passionate about freedom. Jesus died and was resurrected so that we could be free from sin, free to be who God created us to be, and free to spend an eternity with Him. This incredible truth means that even in lockdown, with restrictions in place, we can still experience God’s freedom – the freedom to love and be loved by our creator and the freedom to worship and praise Him.

Sponsored

We also have the freedom to love others well. As free people, Christians have the privilege of showing God’s freedom to a hurting world. The author Toni Morrison once said: The function of freedom is to free someone else.” As people filled with the Holy Spirit, we are called to show the love and freedom of God to others. Even in lockdown we can love and support our neighbours, we can speak up for our sisters and brothers around the world who are persecuted for their faith, we can raise awareness of the millions trapped in slavery, we can pray for those in prison, and we can give to emergency appeals to support those who are worst affected in this crisis.

We don’t know how long these restrictions will be necessary, but even in challenging circumstances we can know the freedom that God gives us and play our part in ministering freedom to others.

*Name has been changed.

Canfod Rhyddid yn ystod y Cyfnod Clo

Sut fedrwn ni brofi rhyddid Duw a charu eraill er gwaetha’r cyfyngiadau presennol?

Yn ystod yr argyfwng hwn, mae’n siŵr ichi glywed yr ymadrodd: “Rydyn ni i gyd yng nghanol yr un storm, ond dydyn ni i gyd ddim yn yr un cwch.” Mae’n amlygu’r ffaith fod yr argyfwng hwn yn effeithio arnon ni i gyd ond mewn gwahanol ffyrdd. Mae’r cyfnod clo presennol wedi golygu fod sawl gwedd ar fywyd, a gymerwyd yn ganiataol ganddon ni gynt, bellach wedi’u cyfyngu er mwyn ein galluogi i ddiogelu, a dangos cariad tuag at, eraill.

Fodd bynnag, mae gofyn inni fod yn ymwybodol eu bod yn cael effaith arwyddocaol ar gymaint o bobl, yn ymarferol yn ogystal ag yn emosiynol. P’un ai fod hynny trwy golli incwm, heriau iechyd meddwl neu fethu â chael gweld anwyliaid, mae effaith y cyfnod clo yn cael ei deimlo.

Fe fues i’n sgwrsio unwaith gyda dyn o’r enw Sam* a oedd newydd ddod yn Gristion tra yn y carchar. Roedd gan Sam cryn gyfnod eto i’w dreulio dan glo. Wrth iddo rannu ei brofiad o garchar gyda mi, gwenodd, gan ddweud, Wyddost ti, efallai nad ydw i’n rhydd allan yn fanno, ond dwi’n rhydd yn y fan hyn,” gan bwyntio at ei galon. Dros gyfnod o flynyddoedd yng ngweinidogaeth carchardai, fe glywais i lawer o bobl yn datgan yr un peth sef, er nad ydyn nhw’n gallu bod yn rhydd yn gorfforol, maen nhw wedi llwyddo i brofi rhyddid Duw.

Dywed 2 Corinthiaid 3:17:​“Cyfeirio at yr Ysbryd Glân mae’r gair ‛Arglwydd‛; a ble bynnag mae Ysbryd yr Arglwydd mae yna ryddid.” Mae Duw yn angerddol dros ryddid. Bu farw Iesu a chael ei atgyfodi er mwyn i ni fod yn rhydd o bechod, yn rhydd i fod yr hyn y’n crëwyd gan Dduw i fod, ac yn rhydd i dreulio tragwyddoldeb gydag E. Mae’r gwirionedd anhygoel hwn yn golygu bod modd i ninnau, hyd yn oed trwy gyfnod clo, gyda’r holl gyfyngiadau sydd ar waith, brofi rhyddid Duw – y rhyddid i garu a chael ein caru gan ein creawdwr a’r rhyddid i’w foli a’i addoli.

Mae’r rhyddid ganddon ni hefyd i garu eraill. Fel pobl sy’n rhydd, mae gan Gristnogion y fraint o ddangos rhyddid Duw i fyd sydd mewn gwewyr. Dywedodd yr awdur, Toni Morrison, unwaith:​“Swyddogaeth rhyddid ydy rhyddhau rhywun arall.” Fel pobl sydd wedi’u llenwi â’r Ysbryd Glân, fe’n gelwir i ddangos cariad a rhyddid Duw i eraill. Hyd yn oed mewn cyfnod clo, medrwn garu a chefnogi ein cymdogion; medrwn godi llais ar ran ein brodyr a’n chwiorydd ledled y byd sy’n cael eu herlid am eu ffydd; medrwn godi ymwybyddiaeth o’r miliynau sy wedi’u dal mewn caethwasiaeth; medrwn weddïo dros y rhai hynny sy’n y carchar ac fe fedrwn ni roi at apeliadau argyfwng i gefnogi’r rhai hynny sydd wedi’u heffeithio gwaethaf yn yr argyfwng hwn.

Wydden ni ddim pa mor hir y pery’r angen am y cyfyngiadau hyn, ond hyd yn oed mewn amgylchiadau heriol, medrwn brofi’r rhyddid mae Duw yn rhoi inni a chwarae ein rhan wrth weinidogaethu rhyddid i eraill.

*Cafodd yr enw ei newid.