Whatever we choose to do in life there will always be challenges, whether they be ethical, moral, relational, emotional or spiritual. Imagine having to deal with them under the ever-watchful and often intrusive eye of the media. Every move, word and action scrutinised to the nth degree, just ask Israel Folau or Tyson Fury. Every little misdemeanour is played out to an audience of millions. You can be top of the world one moment and crushed in a cavernous ravine the next. Welcome to the world of elite sport.

We are strange beings. Joyful when our sport stars are triumphant but then rub our hands with glee if they are caught cheating, gambling or playing away’. What does that say of us who are often so quick to judge when we have never had to experience the surreal world they live in? Are we that perfect we can cast the first stone”? Like you and me, they are human! 

Indeed, how can any Christian expect to survive let alone thrive in such a cauldron, especially with the huge peer pressure to conform to an often far from appropriate team ethos? Praise God that sports people do thrive and walk for Him in these arenas. They can be an amazing witness to God’s eternal glory. That’s why God gave us His Holy Spirit with the promise that, He who is in you is greater than he who is in the world”. We must pray every day for His power and enabling to be at work in us. 

Take the baptism of Liverpool’s Roberto Firmino being broadcast on Sky Sports and the knock-on effect to millions across the world on social media. His one action of godly obedience will arguably touch more lives than any evangelist ever will. Or Klopp openly sharing his faith when he stated: To be a believer, but not to want to talk about it – I do not know how it would work!” Therefore, as God’s people we must help and encourage them, offer them a safe support network like sports chaplains do, whilst trying to ensure they are properly connected to a local church.

Sponsored

How can they or any of us who love sport show our Christian identity through it? I like what John the Baptist says when he was asked how to produce fruit in keeping with repentance. He said, in effect, by being compassionate, generous, people of integrity, not using our position of power inappropriately, honest, not cheating or lying, content with what we have. So practical yet so challenging, and when people see us living this way, they see the identity of Christ within us. God’s light shines out and people do notice. This challenge is for all of us to walk the walk or we will soon be found out. We must build our lives upon the Rock who is Jesus. 

Sut mae modd inni adlewyrchu ein ffydd Gristnogol mewn chwaraeon?

Beth bynnag a ddewiswn ni ei wneud mewn bywyd, fe fydd heriau i’w hwynebu, boed y rheini’n rai moesegol, moesol, perthynol, emosiynol neu ysbrydol. Dychmygwch orfod delio â’r rhain wrth i’r wasg a’r cyfryngau sylwgar a busneslyd gadw llygad barcud arnoch chi. Craffu ar bob cam, gair a gweithred a’u dadansoddi hyd yr eithaf - gofynnwch i Israel Folau neu Tyson Fury. Mae pob cam gwag neu gamymddygiad yn cael eu dadlennu i fyd sy’n awchu am glecs. Medrwch deimlo ar ben y byd ar un eiliad; a’r eiliad nesaf wedi’ch taflu dros y dibyn i bwll diwaelod. Croeso i fyd chwaraeon elît.

Rhyfedd y’n gwnaed! Yn gorfoleddu a dyrchafu llwyddiannau ein harwyr ym myd y campau ond o fewn dim, ni ydy’r uchaf ein cloch yn eu gwawdio o gael eu dal yn twyllo, yn hapchwarae neu’n anffyddlon i’w cymar. Beth ddywed hynny amdanon ni sydd mor barod i feirniadu heb brofiad o fyw yn eu byd swreal nhw? A ydyn ni mor berffaith fel y medrwn ninnau daflu’r garreg gyntaf”? Fel ti a fi, ffaeledig ydyn nhw! 

Yn wir, sut y gall unrhyw Gristion ddisgwyl goroesi, heb sôn am ffynnu ym merw’r fath grochan, yn enwedig gyda holl bwysedd cyfoedion i gydymffurfio i ethos tîm sy’n bell o fod yn briodol? Clod i Dduw am y rhai hynny ym myd chwaraeon sydd yn ffynnu ac yn cerdded yn ôl Ei draed ar y meysydd chwarae. Maen nhw’n gallu bod yn dystiolaeth ryfeddol i ogoniant tragwyddol Duw. Dyna pam y rhoddodd Duw Ei Lân Ysbryd inni gyda’r addewid fod yr Ysbryd sydd ynoch chi yn gryfach o lawer na’r un sydd yn y byd”. Rhaid inni weddïo pob dydd am i’w nerth a’i allu fod ar waith ynon ni. 

Meddyliwch, er enghraifft, am fedydd Roberto Firmino, chwaraewr Lerpwl, a gafodd ei ddarlledu ar Sky Sports a’r effaith, fel canlyniad, a welwyd ar y cyfryngau cymdeithasol ymysg miliynau ledled y byd. Gellid dadlau y bydd yr un weithred honno o ufudd-dod duwiol yn debygol o gyffwrdd â llawer mwy o fywydau na’r un efengylydd. Neu Klopp yn rhannu ei ffydd yn agored wrth ddweud: I fod yn un sy’n credu, ond ddim am drafod y peth — fedra i ddim gweld sut fase hynny’n gweithio!” Felly, fel pobl Dduw, mae’n rhaid inni eu helpu a’u hannog, cynnig rhwydwaith cymorth diogel fel mae caplaniaid chwaraeon yn ei gynnig, tra’n sicrhau bod ganddyn nhw gyswllt cadarnha ag eglwys leol.

Sut allen nhw, neu unrhyw un ohonon ni sy’n caru chwaraeon, adlewyrchu ein ffydd Gristnogol trwyddo? Dwi’n hoffi beth ddywedodd Ioan Fedyddiwr pan ofynnwyd iddo sut i gynhyrchu ffrwyth yn unol ag edifeirwch. Mewn gwirionedd, mae Ioan yn dweud wrthon ni i fod yn bobl trugarog, hael, didwyll, heb wneud defnydd amhriodol o’n grym a’n dylanwad, heb dwyll na chelwydd ynon ni ac yn ddedwydd gyda’r hyn sydd ganddon ni. Mor ymarferol ac eto mor heriol a phan fo pobl yn ein gweld yn byw fel hyn, maen nhw’n gweld cymeriad Crist ynon ni. Mae goleuni Duw’n disgleirio trwyddon ni ac MAE pobl yn sylwi. Yr her i ni ydy byw ein ffydd neu fe fydd pobl yn gweld trwyddon ni ymhen hir a hwyr. Mae’n rhaid inni adeiladu ein bywydau ar y Graig, sef Iesu.