---
title: Trugaredd
date: 2019-10-08T16:00:00+01:00
author: Naomi Osinnowo
canonical_url: "https://www.eauk.org/news-and-views/trugaredd"
section: Articles
---
Share

 [](https://www.facebook.com/dialog/share?app_id=1769260916495219&href=https%3A%2F%2Fwww.eauk.org%2Fnews-and-views%2Ftrugaredd) [](https://x.com/intent/tweet?text=Trugaredd&url=https%3A%2F%2Fwww.eauk.org%2Fnews-and-views%2Ftrugaredd) [](https://www.facebook.com/dialog/send?app_id=1769260916495219&redirect_uri=https%3A%2F%2Fwww.eauk.org%2Fnews-and-views%2Ftrugaredd&link=https%3A%2F%2Fwww.eauk.org%2Fnews-and-views%2Ftrugaredd&display=popup) [](mailto:?subject=Shared%20from%20Evangelical%20Alliance&body=https%3A%2F%2Fwww.eauk.org%2Fnews-and-views%2Ftrugaredd) 

 

 

 

     Gyda gȇm agoriadol Cymru yng Nghwpan y Byd bellach wedi ei ennill, mae’n siwr y bydd hyfforddwyr, sylwebyddion a chefnogwyr ein tîm rygbi yn treulio’r dyddiau nesaf yn gwerthuso perfformiad ein chwareuwyr ac yn trafod sut y gallen nhw baratoi ar gyfer gwynebu Awstralia ar fore dydd Sul. Wrth gwrs, erbyn hyn nid yn unig ym myd chwaraeon mae gwerthuso perfformiad; mae pobl ym mhob math o swyddi yn gorfod ystyried a ydyn nhw wedi llwyddo i gyrraedd meini prawf llwyddiant eu swyddi, bwrw eu targedau, a pharatoi strategaethau er mwyn gwella a datblygu eu gwasanaethau.

Mae hunan arfarnu a gwerthuso yn medru bod yn beth positif os ydym o ddifri am wella safon ein gwaith, ond gallant hefyd achosi straen a phwysau heb fod angen. Mae’n rhyddhad felly i wybod fod Duw yn ymhyfrydu ynom ni waeth beth yw ein cymwysterau, talentau a’n galluoedd. Nid oes unrhyw weithred y gallwn ei gyflawni fyddai’n achosi Iddo garu ni’n fwy, ac nid oes unrhyw weithred y gallwn ei gyflawni y byddai’n achosi Iddo ein caru ni’n llai. Trugaredd ac nid haeddiant oedd ar feddwl Crist wrth Iddo farw ar y groes. ​“Does neb erioed wedi gallu cyrraedd safon berffaith Duw ar eu pennau’u hunain” meddai Paul yn ei lythyr at y Rhufeiniaid, ​“Ond dangosodd Duw i ni gymaint mae’n ein caru ni drwy i’r Meseia farw drosom ni pan oedden ni’n dal i bechu yn ei erbyn!” Mae ymateb i’r cariad hwn yn galluogi ni i fyw mewn perthynas â Iesu, perthynas sydd ddim yn canolbwyntio ar ein haeddianau ond ar râs a thrugaredd anhygoel Duw, ac mae hynny’n rhyddhau ni o’r straen o orfod perfformio ac ennill cymeradwyaeth pobl eraill.

 Sponsored[](#) [  ![](data:image/svg+xml;charset=utf-8,%3Csvg%20xmlns%3D%27http%3A%2F%2Fwww.w3.org%2F2000%2Fsvg%27%20width%3D%271%27%20height%3D%271%27%20style%3D%27background%3Atransparent%27%2F%3E)  ](https://lst.ac.uk/event/blessed-trinity-conference/)
