---
title: Ymyriadau
date: 2019-10-08T16:00:00+01:00
author: Naomi Osinnowo
canonical_url: "https://www.eauk.org/news-and-views/ymyriadau"
section: Articles
---
Share

 [](https://www.facebook.com/dialog/share?app_id=1769260916495219&href=https%3A%2F%2Fwww.eauk.org%2Fnews-and-views%2Fymyriadau) [](https://x.com/intent/tweet?text=Ymyriadau&url=https%3A%2F%2Fwww.eauk.org%2Fnews-and-views%2Fymyriadau) [](https://www.facebook.com/dialog/send?app_id=1769260916495219&redirect_uri=https%3A%2F%2Fwww.eauk.org%2Fnews-and-views%2Fymyriadau&link=https%3A%2F%2Fwww.eauk.org%2Fnews-and-views%2Fymyriadau&display=popup) [](mailto:?subject=Shared%20from%20Evangelical%20Alliance&body=https%3A%2F%2Fwww.eauk.org%2Fnews-and-views%2Fymyriadau) 

 

 

 

     Wel, mae’r hâf yn dirwyn i ben ac mae yna flwyddyn academaidd newydd ar fîn cychwyn. Roedd wythnos cyntaf mis Medi yn wythnos gyffroes pan oeddwn i yn blentyn. Doedd y cyfryngau cymdeithasol ddim yn bodoli ar y pryd, felly os ddim byd arall, roedd mynd yn ol i’r ysgol yn gyfle da i ddal i fyny efo ffrindiau a chlywed hanesion yr haf.

Tybed a oeddech chi, fel fi yn gwneud pob math o benderfyniadau ar ddechrau mis Medi ar gyfer y blwyddyn oedd i ddod? Addunedau oedd ddim yn anhebyg i’r addunedau y byddwn yn eu gwneud ar ddechrau blwyddyn galendr newydd? O’n i am weithio’n galetach, cael marciau gwell, bwyta’n fwy iachus, ymarfer mwy o scales ar y piano a phob math o bethau eraill…!

Wrth i mi edrych ar fy nyddiadur ar gyfer y mis sydd i ddod, mae geiriau doeth y diwinydd Almaenig Dietrich Bonhoeffer yn dod i’r meddwl sef fod ​“Rhaid i ni fod yn barod i ganiatau i Dduw dorri ar ein traws.” Faint bynnag mor llawn yw fy nyddiadur, dwi ddim am fod mor brysur ac anhyblyg fel nad ydw i’n rhydd i’r Arglwydd fedri ail-gyfeirio fy niwrnod er mwyn i mi wneud beth sydd ar Ei galon a’i agenda Ef. Mae yna adnod yn llyfr Diarhebion sy’n dweud fod “…gan bobl bob math o gynlluniau, ond cynllun yr Arglwydd fydd yn cael ei gyflawni.” Ar ddechrau mis a thymor newydd, boed i’r Arglwydd dorri ar ein traws ni yn aml!

 Sponsored[](#) [  ![](data:image/svg+xml;charset=utf-8,%3Csvg%20xmlns%3D%27http%3A%2F%2Fwww.w3.org%2F2000%2Fsvg%27%20width%3D%271%27%20height%3D%271%27%20style%3D%27background%3Atransparent%27%2F%3E)  ](https://lst.ac.uk/event/blessed-trinity-conference/)
